Carwyn Jones AC
Cynulliad Cenedlaethol Cymru 
Bae Caerdydd 
Caerdydd CF99 1NA

19 Gorffennaf 2019

 

Annwyl Mr. Jones AC,

Yn dilyn eich cais am sylwadau ysgrifenedig parthed hyfforddiant athrawon a chymhwyso i addysgu yng Nghymru ar y 26ain o Fehefin, 2019, yn y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, rwyf yn gyrru’r sylwadau isod i’ch sylw. Byddwn yn hapus iawn i drafod y sylwadau cyffredinol hyn ymhellach â chwi.

Mae UCAC o’r farn y bydd yn gynyddol anodd i athrawon a darpar-athrawon sydd wedi’u hyfforddi y tu allan i Gymru fod yn gallu addysgu yng Nghymru heb gyfnod o hyfforddiant ychwanegol.

Mae’n bwysig iawn ystyried y canlynol wrth werthuso’r sefyllfa:

1.       Bod y Cwricwlwm i Gymru’n symud ymhell oddi wrth y Cwricwlwm Cenedlaethol yn Lloegr, ac yn debygol o fod yn system tra gwahanol i eraill ar draws y byd, er enghraifft:

·         newid sylweddol iawn o ran addysgeg, gyda chryn hyblygrwydd i athrawon o fewn fframwaith benodol, a phwyslais ar gymysgedd o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau

·         gweithio mewn modd rhyng-ddisgyblaethol o fewn Meysydd Dysgu a Phrofiad eang, yn hytrach nag ar sail pynciau penodol

·         pwysigrwydd yr ymwybyddiaeth o’r lleol, a’r Cymreig, o fewn cyd-destun rhyngwladol, a hynny ar draws y cwricwlwm

·         trefniadau asesu tra gwahanol, â’r pwyslais yn gryf iawn ar y ffurfiannol yn hytrach na’r crynodol

2.       Yn gynyddol, bydd disgwyliadau ieithyddol a darpariaeth i ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg yn rhan o gyrsiau addysg gychwynnol athrawon, a hynny er mwyn gweithio tuag at sicrhau gweithlu â sgiliau ieithyddol digonol i roi’r cyfleoedd gorau i ddysgwyr ddod yn ddinasyddion rhugl, ddwyieithog.

2.       Er nad oes penderfyniad wedi’i wneud hyd yn hyn am gymwysterau yng Nghymru yn dilyn cyflwyno’r Cwricwlwm, mi allem weld newidiadau sylweddol i fod yn fwy cydnaws â Chwricwlwm i Gymru, gan gynnwys ymagwedd fwy eang, rhwng-ddisgyblaethol.

3.       Eisoes, mae yna ddisgwyliad bod y rheiny sydd wedi cymryd toriad o 5 mlynedd neu fwy o addysgu yn derbyn hyfforddiant er mwyn gallu ail-gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ac ail-afael yn eu gyrfaoedd (e.e. y cwrs  ‘Further Professional Development for Returning and Supply Teachers’ ym Mhrifysgol De Cymru). Dadleuwn, os oes disgwyliad i’r rheiny sydd wedi’u hyfforddi yng Nghymru ac wedi cymryd bwlch yn eu gyrfa i wneud hyfforddiant ‘pontio’/’trosiannol’/’diweddaru’, mae’n gwbl rhesymegol i ddisgwyl i’r rheiny nad ydynt wedi’u hyfforddi yng Nghymru wneud yr un fath er mwyn bod yn gymwys i addysgu yng Nghymru.

4.       Mae’n bwysig nodi nad yw athrawon/darpar-athrawon sydd wedi cymhwyso yn Lloegr (neu mewn gwledydd eraill y tu hwnt i’r Alban) o reidrwydd yn cael mynd i ddysgu mewn ysgolion yn Yr Alban heb gymhwyso ymhellach; y ‘General Teaching Council for Scotland’ sy’n penderfynu ar bob achos yn unigol.

Mae’n bwysig datgan nad ydym yn ceisio creu rhwystrau i symudedd athrawon; gwyddom fod recriwtio niferoedd digonol o athrawon (a’u cadw yn y proffesiwn) yn her tymor hir, ac ni fyddem am waethygu’r sefyllfa. I’r gwrthwyneb, rydym yn awyddus i sicrhau fod pob un sy’n dysgu yng Nghymru yn barod am y dasg heriol a phwysig sydd o’u blaenau – er mwyn y dysgwyr, ond er tegwch i’r athrawon eu hunain yn ogystal.

Os ydym am gael y gweithlu fwyaf cymwys posib, wedi’u trwytho yng ngwerthoedd ac egwyddorion ein system addysg yma yng Nghymru, rydym o’r farn ei fod yn gynyddol anhepgor i fynnu bod athrawon naill ai wedi derbyn eu haddysg gychwynnol yng Nghymru, neu wedi ymgymryd â chwrs ‘pontio’ (weddol fyr) er mwyn bod yn gymwys i ddysgu yma.

Yn ddiffuant,

A drawing of a person  Description automatically generated

Ioan Rhys Jones,
Swyddog Maes Y Gogledd, UCAC

 

cc:          Bethan Sayed AC, Cadeirydd, Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
                Lynne Neagle AC, Cadeirydd, Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg